Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae gan gyfarwyddwyr prosiect gyfrifoldeb cyffredinol am gwblhau prosiectau adeiladu yn llwyddiannus. Maent yn goruchwylio rheolwyr prosiect, sy'n cydlynu timau i sicrhau fod gwaith yn cael ei gwblhau yn brydlon ac o fewn y gyllideb, i safon uchel. Mae cyfarwyddwyr prosiect yn darparu arweinyddiaeth i reoli risg yn strategol, monitro cyllid a sicrhau fod pob cam o'r gwaith yn cael ei ddechrau neu ei gwblhau yn brydlon.
£40000
-£100000
Mae yna sawl llwybr i ddod yn gyfarwyddwr prosiect. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch trwy gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, neu brentisiaeth.
Dylech archwilio'r opsiynau i ddod o hyd i’r un sy’n iawn i chi. Fel arfer, bydd cyfarwyddwr prosiect wedi cael nifer o flynyddoedd o brofiad yn y diwydiant adeiladu.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Gallech gwblhau gradd sylfaen, Diploma Cenedlaethol Uwch (HND), gradd israddedig neu radd ôl-raddedig wedi’i hachredu gan y Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB). Mae pynciau perthnasol yn cynnwys rheoli adeiladu, rheoli busnes a phrosiect neu astudiaethau adeiladu.
Yn gyffredinol, byddwch angen:
Efallai y bydd eich coleg neu ddarparwr hyfforddiant lleol yn cynnig cyrsiau sy'n ymwneud ag adeiladu ar lefel tystysgrif genedlaethol uwch (HNC) neu ddiploma cenedlaethol uwch (HND), a fyddai’n eich helpu ar eich llwybr gyrfa i ddod yn gyfarwyddwr prosiect.
Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu yn ffordd dda o gychwyn gweithio yn y diwydiant. Mae prentisiaethau yn agored i bawb dros 16 oed. Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi'n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio isafswm o 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad yn y gwaith a choleg neu ddarparwr hyfforddiant.
Gallech astudio am uwch-brentisiaeth neu brentisiaeth gradd mewn rheoli prosiect adeiladu neu fusnes a rheolaeth. Fel arfer, bydd angen 4 - 5 o gymwysterau TGAU (neu gyfwerth) arnoch â graddau 9 - 4 (A* - C) a chymwysterau safon uwch (neu gyfwerth) i wneud prentisiaeth uwch neu brentisiaeth gradd.
Os ydych eisoes wedi bod mewn rolau cefnogi o fewn timau prosiect ac wedi cael profiad rheoli neu gymwysterau rheoli, efallai y gallwch wneud cais yn uniongyrchol am swydd fel rheolwr neu gyfarwyddwr prosiectau.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn dod o hyd i waith yn y diwydiant adeiladu. Gallech ennill y profiad hwn yn yr ysgol, neu wrth weithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau i gwmni neu berthynas sy'n gweithio ym maes adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV.
Fel rheolwr prosiectau, gallech fod yn gwneud y canlynol:
Mae oriau a chyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallech ei weithio.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant
Chwiliwch am y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer cyfarwyddwyr prosiectau:
Gwefannau allanol yw'r rhain, felly gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.
Byddwch angen o leiaf deng mlynedd o brofiad yn y diwydiant i fod yn gyfarwyddwr prosiect. Bydd cymwysterau proffesiynol gan y Gymdeithas Rheoli Prosiectau (APM), y Sefydliad Rheoli Prosiect (PMI) a'r Sefydliad Rheoli Siartredig (CMI) yn eich helpu i baratoi at rôl uwch.
Pan fyddwch wedi cychwyn gweithio fel cyfarwyddwr prosiect, gallech arbenigo a goruchwylio maes penodol o reoli prosiect, megis contractau neu gynllunio. Fel arall, efallai y gallech ddod yn ymgynghorydd hunangyflogedig a phennu eich cyflog eich hun.
Fel cyfarwyddwr profiadol, gallech symud ymlaen i fod yn gyfarwyddwr gweithredol neu’n brif swyddog gweithredol cwmni, neu sefydlu eich busnes eich hun.