Facebook Pixel

Peiriannydd geo-dechnegol

A elwir hefyd yn -

Geodechnegydd

Mae gan beiriannydd geo-dechnegol rôl bwysig yn y gwaith o ddadansoddi pridd, creigiau, dŵr daear a deunyddiau pridd eraill cyn prosiectau adeiladu mawr. Gall y dadansoddiad hwn helpu i benderfynu pa ddeunyddiau y mae’n rhaid eu defnyddio yn nyluniad cyffredinol neu sylfaen y strwythur, neu a oes angen mesurau ychwanegol i sicrhau bod y prosiect yn ddiogel.

Cyflog cyfartalog*

£19000

-

£30000

Sut i fod yn beiriannydd geo-dechnegol

Mae sawl ffordd o ddod yn beiriannydd geo-dechnegol. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch drwy ddilyn cwrs prifysgol neu goleg, neu gallech chi wneud cais am brentisiaeth. Os oes gennych brofiad perthnasol yn barod, efallai y gallwch wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr neu hyfforddi yn y gwaith. 

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Gall cyflogwyr hefyd ofyn am gymhwyster ôl-radd mewn pwnc fel peirianneg geo-dechnegol, hydroddaeareg, mecaneg pridd neu greigiau. I gofrestru ar gwrs gradd ôl-radd, bydd angen i chi fod wedi cwblhau gradd neu gymhwyster cyfatebol. 

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Efallai y bydd eich coleg neu’ch darparwr hyfforddiant lleol yn cynnig cyrsiau i’ch helpu ar eich taith tuag at fod yn beiriannydd geo-dechnegol, fel gwyddoniaeth amgylcheddol, daeareg neu wyddoniaeth gymhwysol.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Gallech chi gwblhau prentisiaeth i ddod yn beiriannydd geo-dechnegol. Gallwch hyfforddi fel technegydd peirianneg, ac yna arbenigo i ennill y cymwysterau sydd eu hangen i weithio fel peiriannydd geo-dechnegol.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych gefndir ym maes peirianneg sifil neu wyddoniaeth, weithiau mae’n bosibl mynd i mewn i’r maes drwy Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE) neu’r Sefydliad Deunyddiau, Mwynau a Mwyngloddio (IOM3). Gallech chi ddechrau arni fel cynorthwyydd i beiriannydd geo-dechnegol mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.  

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel peiriannydd geo-dechnegol. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel peiriannydd geo-dechnegol: 

  • Gwybodaeth am fathemateg, gwyddoniaeth a daeareg
  • Gallu llunio brasluniau syml
  • Brwdfrydedd dros yr amgylchedd
  • Gallu defnyddio gwybodaeth dechnegol
  • Gallu dadansoddi 
  • Gallu creu a chynnal perthynas â chleientiaid a thimau eraill
  • Sgiliau rheoli prosiectau.

Cymwysterau


Beth mae peiriannydd geo-dechnegol yn ei wneud?

Fel peiriannydd geo-dechnegol, byddwch chi’n gyfrifol am astudio ac adolygu’r amgylchedd naturiol cyn i brosiect adeiladu ddigwydd. Mae hyn yn cynnwys adolygu mwynau a deunyddiau cyfagos, a helpu i ddylunio prosiectau ar sail eich canfyddiadau. 

Mae swydd peiriannydd geo-dechnegol yn cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Casglu a dadansoddi data
  • Edrych ar y risg o beryglon daearegol a gwneud yn siŵr bod unrhyw ffactorau sy’n effeithio ar waith peirianyddol yn cael eu nodi a’u rheoli
  • Rhoi cyngor ar y gweithdrefnau sydd eu hangen ac addasrwydd deunyddiau adeiladu
  • Defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol arbenigol i greu modelau 2D a 3D dadansoddol
  • Defnyddio mapiau daearegol a ffotograffau o’r awyr i roi cyngor ar ddewis safle
  • Helpu i ddylunio strwythurau adeiledig, gan ddefnyddio meddalwedd neu gyfrifiadau cyfrifiadurol arbenigol
  • Cynllunio ymchwiliadau maes manwl drwy ddrilio a dadansoddi samplau o ddyddodion neu greigwely
  • Goruchwylio ymchwiliadau tir a chyllidebau
  • Profi a rhoi cyngor ar amrywiaeth o ddeunyddiau adeiladu, gan gynnwys tywod, graean, brics a chlai
  • Gwneud argymhellion ar y defnydd arfaethedig o safle
  • Rheoli staff, gan gynnwys daearegwyr peirianneg eraill, peirianwyr geo-dechnegol, ymgynghorwyr a chontractwyr
  • Gweithio i ddiogelu a gwarchod yr amgylchedd ffisegol
  • Dadansoddi safleoedd a dyluniadau ar gyfer datblygiadau amgylcheddol sensitif, fel tirlenwi.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel peiriannydd geo-dechnegol?

Mae’r cyflog disgwyliedig i beiriannydd geo-dechnegol yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall peirianwyr geo-dechnegol sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £20,000 - £25,000
  • Gall peirianwyr geo-dechnegol hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £25,000 - £32,000
  • Gall peirianwyr draenio uwch, siartredig neu feistr ennill £32,000 - £60,000*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi diweddaraf ar gyfer peirianwyr geo-dechnegol:  

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel peiriannydd geo-dechnegol, gallech chi drosglwyddo eich sgiliau i ddisgyblaeth debyg ym maes peirianneg, fel peirianneg strwythurol. 

Gallech chi hefyd symud i fyny yn y rôl a dod yn arweinydd tîm, neu'n rheolwr.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Peiriannydd geo-dechnegol Oes gennych chi ddiddordeb mewn dadansoddi’r risg o beryglon daearegol er mwyn c...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr contractau Yn ystod prosiect adeiladu, mae’r rheolwr contractau yn goruchwylio’r broses con...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr prosiect Rheolwr prosiect sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr bod unrhyw fath o waith adeiladu...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Peiriannydd strwythurol Mae peirianwyr strwythurol yn dylunio strwythurau i wrthsefyll straen a phwysau ...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Contractwr hunangyflogedig Fel contractwr neu is-gontractwr, byddwch yn gweithio’n uniongyrchol gyda’ch cle...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080