Facebook Pixel

Saer

Mae seiri yn creu ac yn gosod ffitiadau a gosodiadau pren fel rhan o brosiectau adeiladu.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£45000

Oriau arferol yr wythnos

40-45

Sut i ddod yn Saer

Nid oes angen i chi ddal cymwysterau penodol ond mae'n fantais cael pasiau TGAU neu eu cyfwerth. Byddai pynciau megis Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth yn fuddiol.

Mae cyflogwyr yn hoffi gweld pobl â rhywfaint o brofiad o safleoedd adeiladu. Mae prentisiaeth adeiladu â chwmni gwaith coed neu gwmni adeiladu yn ffordd dda i mewn. Mae rhai colegau a darparwyr hyfforddiant yn helpu trwy gyflwyno prentisiaid posibl i gyflogwyr â diddordeb. 

Fel prentis byddwch yn ennill cymhwyster hyfforddi a elwir y diploma neu dystysgrif dechnegol a chymhwyster seiliedig ar waith a elwir yn NVQ. Mae hefyd yn cynnwys Saesneg a mathemateg sylfaenol (a elwir yn Sgiliau Gweithredol, neu Sgiliau Hanfodol yng Nghymru) a Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogeion i helpu yn y gweithle, ynghyd â sgiliau dysgu a meddwl personol.  I ddod o hyd i brentisiaeth ewch i wefan swyddi gwag y Llywodraeth neu yng Nghymru, Gyrfa Cymru.

Os na allwch gael prentisiaeth, neu os ydych chi'n cyfnewid gyrfaoedd, mae darparwyr hyfforddiant a cholegau'n rhedeg cyrsiau ar waith coed a saernïaeth, ond efallai byddant yn codi ffioedd. Gofynnwch am fanylion yn eich coleg lleol. Gallai hyn eich helpu i symud ymlaen i brentisiaeth.

Yn yr Alban, y ffordd orau o ddod yn Saer/Saer dodrefn yw trwy Brentisiaeth Fodern.  Mae hyn yn cynnwys prentisiaeth 4 blynedd â chyflogwr a rhaglen hyfforddi strwythuredig yn y coleg lle byddech chi'n gweithio tuag at Gymhwyster Galwedigaethol Lefel 3 yr Alban (SVQ Lefel 3).


Beth mae Saer yn ei wneud?

  • Mesur, marcio, torri, llunio, ffitio a gorffen pren - naill ai â llaw neu ag offer pŵer.
  • Adfer ac ail-greu adeiladau hanesyddol fel rhan o brosiectau treftadaeth diddorol.
  • Gwybodaeth weithredol ardderchog o bren, ei wahanol fathau a defnyddiau'n bwysig, yn ogystal â gwybod sut y bydd y cynnyrch gorffenedig yn ffitio i dŷ neu adeilad. 
  • Y gallu i ddefnyddio ystod eang o offer 
  • Y cyfle i weithio yn yr awyr agored a chodi fframiau cynhaliol ar gyfer prosiectau mawr megis pontydd, ffyrdd, argaeau ac adeiladau
  • Bydd prosiectau eraill yn galw am weithio y tu mewn i adeiladau masnachol a phreswyl.    
  • Gosod distiau, estyll, cyplysau to, parwydydd
  • Gosod gwaith pren mewnol (grisiau, drysau, bordiau wal, cypyrddau, ceginau)
  • Deall darluniadau technegol
  • Cael gwybodaeth arbenigol mewn gwahanol fathau o bren a'u defnyddiau


Cyflog

  • Gall seiri sydd newydd eu hyfforddi ennill tuag £17,000 - £20,000
  • Gall seiri wedi'u hyfforddi â phrofiad ennill tua £20,000-£30,000
  • Gall seiri uwch, siartredig neu feistr ennill tua £30,000-£45,000

Bydd cyflogau'n dibynnu ar leoliad, cyflogwr a lefel gyfrifoldeb, a faint o ormaser sy'n cael ei weithio. Mae seiri hunangyflogedig yn gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swydd wag

Gwiriwch y diweddaraf swyddi gwag:

Gan mai gwefannau allanol yw’r rhain, gallai’r nifer o swyddi gwag cysylltiedig â’r rôl a ffefrir gennych amrywio.

Gwiriwch bob dydd i weld cyfleoedd newydd wrth iddynt gael eu postio!


Dyluniwyd y wefan gan S8080