Facebook Pixel

Budd-daliadau i brentisiaid

Rydym wedi sôn yn gryno am rai o’r budd-daliadau mae gennych chi hawl iddynt fel prentis yn ein canllaw i gyflogau prentisiaethau, ond byddwn yn edrych yn fanylach yma ar yr hyn y mae prentis yn ei gael fel rhan o’i gyflogaeth.  

Alla i hawlio budd-daliadau wrth wneud prentisiaeth?

Mae gan brentisiaid hawl i gael budd-daliadau, ond bydd y swm yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol. Mae gwahanol fudd-daliadau ar gael, fel credyd cynhwysol i gefnogi pobl ar incwm isel, ond bydd angen i chi wirio’r meini prawf a chymhwysedd cyn gwneud cais. Mae canllaw o'r enw How Benefits Work gan y Llywodraeth, sy'n ddefnyddiol ar gyfer cyngor pellach, gan gynnwys rhestr o gyfrifianellau budd-daliadau ar-lein dibynadwy y gallwch chi eu defnyddio.

Ydw i’n gymwys i hawlio credydau treth neu gredyd cynhwysol?  

Cafodd y system credydau treth flaenorol o gredyd treth gwaith a chredyd treth plant ei disodli gan gredyd cynhwysol, sy’n ceisio cefnogi pobl ar incwm isel a’r rheini sy’n methu gweithio.

Mae prentisiaid yn gymwys i gael credyd cynhwysol, ond dim ond o dan amgylchiadau penodol. Dim ond pan fyddwch chi’n ymgymryd â phrentisiaeth gydnabyddedig y gallwch chi hawlio credyd cynhwysol, sy’n golygu bod yn rhaid i chi wneud y canlynol:

  • Dod o hyd i ddarparwr hyfforddiant
  • Gweithio tuag at gymhwyster cydnabyddedig
  • Cael eich talu o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer prentis.

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â chymhwyso ar gyfer credyd cynhwysol, ewch i https://www.gov.uk/universal-credit/eligibility.

Mae hefyd adran ar Gyllid a Thollau EM ar sut i gyfrifo credydau treth

Mae’n rhaid i rai ymgeiswyr ar gyfer credyd cynhwysol fodloni cyfyngiadau penodol ar eu horiau gwaith i fod yn gymwys, ond mae hyn yn wahanol i brentis. Os ydych chi’n cael credyd cynhwysol, gofynnir i chi gytuno ar ymrwymiad hawlydd, sy’n gysylltiedig â faint o oriau rydych chi’n eu gwneud fel rhan o’ch prentisiaeth.

Os yw eich prentisiaeth am fwy na 30 awr yr wythnos, ni ddylid gofyn i chi wneud unrhyw weithgaredd cysylltiedig â gwaith. Mae hyn yn golygu na fydd angen i chi chwilio am fwy o waith ar wahân i’r hyn rydych chi’n ei wneud fel rhan o’ch prentisiaeth. Os yw eich prentisiaeth am lai na 30 awr yr wythnos ac nad ydych yn unrhyw un o'r grwpiau sy'n gallu gweithio llai o oriau, efallai y gofynnir i chi ymgymryd â gweithgaredd cysylltiedig â gwaith.

Y grwpiau sy’n cael gweithio llai o oriau yw’r rheini ag anabledd, salwch neu ymrwymiadau gofal plant.  

Alla i hawlio budd-dal plant os ydy fy mhlentyn yn gwneud prentisiaeth?  

Mae’r rheolau ar gyfer hyn yn amrywio ychydig yn y DU. Yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ni allwch dderbyn budd-dal plant ar gyfer plentyn dros 16 oed sy’n dilyn prentisiaeth.

Yng Nghymru, gallwch dderbyn budd-dal plant ar gyfer plentyn dros 16 oed sy'n dilyn prentisiaeth hyfforddai neu brentisiaeth sylfaen.

Oes rhaid i mi dalu’r dreth gyngor tra byddaf yn dilyn prentisiaeth?  

Mae rhai myfyrwyr wedi’u heithrio rhag talu’r dreth gyngor, ond nid yw hyn yn ymestyn i brentisiaid. Fodd bynnag, os yw eich aelwyd yn cynnwys prentisiaid neu hyfforddeion yn unig, gallwch wneud cais am ostyngiad o 50% ar y dreth gyngor. Gallwch wneud cais yma am ostyngiad y dreth gyngor.

Ydw i’n gymwys i gael cyllid?  

Mae cyllid prentisiaethau wedi newid rhywfaint ers COVID-19. Cyhoeddodd y Llywodraeth y newidiadau hyn a darparu dogfen ategol, y gallwch ei darllen yn llawn yma

Mae prentisiaid yn cael cyflog wrth astudio ac mae ganddynt hawl i rai disgowntiau a budd-daliadau, ond fel arfer mae ‘cyllid’ ar gyfer prentisiaeth yn ymwneud â’r cyflogwr ac nid y prentis ei hun. Mae hyn yn caniatáu i gyflogwr gyflogi prentisiaid a’u cefnogi.  

Fodd bynnag, efallai y bydd grantiau neu gyllid ar gael i chi wneud cais amdanynt yn lleol neu drwy gyllidwyr preifat, felly holwch eich coleg neu'ch Canolfan Waith leol am y cyfleoedd sydd ar gael.  

Cliciwch yma i weld y grantiau prentisiaethau sydd ar gael gan CITB i gyflogwyr.

Lwfans byw oddi cartref i brentisiaid

Ochr yn ochr â chyflog, mae rhai cyflogwyr yn cynnig manteision eraill gan gynnwys lwfans adleoli os oes rhaid i chi symud i gwblhau eich prentisiaeth. Fodd bynnag, bydd hyn yn unigryw i’ch prentisiaeth ac fe ddylech ei drafod cyn cytuno i dderbyn y swydd gyda’r cyflogwr hwnnw. 

Nid oes lwfans penodol ar gyfer byw oddi cartref yn y DU (fel mewn gwledydd eraill megis Awstralia), ond efallai y gallwch hawlio costau am deithio neu eitemau y byddwch yn eu prynu yn ystod eich prentisiaeth. Dysgwch fwy am hawlio gostyngiad yn y dreth ar gyfer eich treuliau swydd.

Fel prentis, beth mae gen i hawl iddo?

Mae prentisiaid yn dod o dan rywbeth a elwir yn Rheoliadau Amser Gwaith 1998 sy'n golygu eu bod yn cael yr un hawliau sylfaenol â gweithwyr eraill. Gadewch i ni edrych ar hynny'n fanylach.

Tâl salwch

Mae gan brentisiaid hawl i gael tâl salwch. Gall hwn fod yn swm a bennir gan eich cyflogwr, ond ni all fod yn is na'r Tâl Salwch Statudol, sef £95.85 yr wythnos.

Hawl gwyliau a thâl

Mae gan brentisiaid yr un hawliau â gweithwyr eraill o ran cymryd gwyliau. Mae gennych hawl i isafswm o 20 diwrnod o wyliau gyda thâl bob blwyddyn, yn ogystal â gwyliau banc.

Taliadau goramser

Mae goramser yn rhywbeth y mae’n rhaid cytuno arno mewn contract cyn i weithiwr ddechrau gweithio, gan nad oes rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyflogwr i dalu am oriau ychwanegol. Nid oes isafswm lefelau statudol ychwaith ar gyfer tâl goramser.

Pensiwn cofrestru awtomatig

Dim ond i weithwyr 22 oed neu hŷn y mae cynllun pensiwn cofrestru awtomatig y Llywodraeth yn berthnasol. Gall prentisiaethau ddechrau yn 16 oed, felly os ydych chi'n ennill £6,240 neu fwy (yn y flwyddyn dreth 2020-21), gallwch optio i mewn a chael budd o arian ychwanegol gan eich cyflogwr.

Ydych chi’n ystyried dod yn brentis?

Ydych chi’n ansicr sut beth fyddai prentisiaeth ym maes adeiladu? Dyma bopeth y mae angen i chi ei wybod. 

Ydych chi’n ystyried gwneud cais am brentisiaeth yn y diwydiant adeiladu ond ddim yn siŵr sut i fynd ati? Mae gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Dyluniwyd y wefan gan S8080