Mae angen nifer o gymwysterau i fod yn drydanwr cymwysedig. Dysgwch fwy am y gofynion mynediad a'r cyrsiau y dylai hyfforddeion eu dilyn yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Er bod y cyrsiau’n amrywio ychydig, mae tebygrwydd cyffredinol o ran eu bod yn cael eu graddio ar dair lefel neu gamau i’w gwneud yn haws eu cymharu.  


Pa gymwysterau sy’n cael eu hystyried yn ofynnol? 

Os oes gennych ddiddordeb mewn dechrau hyfforddi i fod yn drydanwr cwbl gymwys yng Nghymru a Lloegr, bydd angen i chi ddilyn cwrs gosod cyfarpar trydanol domestig City and Guilds. Mae hwn wedi’i rannu’n dair lefel – Cam 1, Diploma Lefel 2/Lefel 3 a NVQ Lefel 3.  

Mae’r cwrs Cam 1 wedi’i anelu at bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol, ac fel arfer bydd angen y canlynol arnoch fel arfer:  

  • O leiaf 2 TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) ar raddau 9 i 3 (A* i D)  

Mae cam 1 yn cynnwys 18 diwrnod o hyfforddiant a gellir ei gymryd mewn un bloc neu ei ledaenu dros gyfnod hwy. Mae hyfforddiant yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb mewn coleg sy'n lleol i chi. 

Pa gymwysterau trydanwyr sydd ar gael?

Cwrs Trydanol Domestig  

Y cwrs sylfaen cam 1 hanfodol ar gyfer gwaith trydanol domestig, gan gynnwys modiwlau ar brofion PAT a gwefru cerbydau trydan.  

Diploma City and Guilds 2365 Lefel 2 

Mae Cam 2 rhaglen y cwrs trydanol domestig yn cynnwys ystod eang o fodiwlau a sgiliau gosod trydanol sy’n caniatáu i hyfforddeion symud ymlaen i osod yn fasnachol.  

Diploma City and Guilds 2365 Lefel 3 

Mae’r cwrs mwyaf cynhwysfawr ar gyfer trydanwyr dan hyfforddiant, diploma trydanol NVQ Lefel 3 yn dysgu’r holl sgiliau allweddol i fod yn drydanwr cymwysedig.  

Prentisiaeth Fodern SECTT mewn Gwaith Gosodiadau Trydanol Cam 1, 2 a 3 

Mae’r un cyrsiau City and Guilds yn berthnasol yng Nghymru ac yn Lloegr. Mae City and Guilds hefyd yn cydweithio ag EAL yng Nghymru i ddarparu cyfres newydd o gymwysterau Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu y gellir eu hariannu, sy’n cynnwys rhai modiwlau gosodiadau trydanol.  

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu ar gyfer pob lefel?

Lefel 1 

  • Defnyddio offer llaw sylfaenol 
  • Gosod a therfynu ceblau dwbl a daear 
  • Deall a gosod cylchedau safonol ar gyfer Goleuadau, Pŵer a Phoptai  
  • Cysylltu bondin â gwasanaethau nwy a dŵr 
  • Sut mae unedau defnyddwyr yn gweithio a’u cysylltu â nhw 
  • Dewis offer a lleoliadau arbennig yn gywir 
  • Unedau SI Sylfaenol, Cyfraith Ohms a Chyfrifiadau Pŵer 
  • Cyfrifo’r galw uchaf a chymhwyso amrywiaeth ar gyfer gosodiad domestig 
  • Dewis meintiau cebl yn gywir 
  • Cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu 
  • Systemau Daearu 
  • Amddiffyn Cylched 
  • Ynysu'n ddiogel (Un Cam) 
  • Hanfodion archwilio a phrofi 
  • Sut mae defnyddio a gweithredu’r Rheoliadau Gwifro (BS7671) 

Lefel 2 

  • Technoleg Gosodiadau Trydanol – Wedi’i seilio’n bennaf ar theori 
  • Egwyddorion Gwyddoniaeth Trydanol - Wedi’u seilio’n bennaf ar theori 
  • Gosod Systemau Gwifro ac amgaeadau – Hyfforddiant Theori 
  • Iechyd a Diogelwch mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu - Hyfforddiant Ymarferol a Theori 
  • Deall sut i gyfathrebu ag eraill ym maes Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu - Hyfforddiant Ymarferol a Theori 

Lefel 3 

  • Iechyd a Diogelwch mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu  
  • Egwyddorion Gwyddoniaeth Trydanol 
  • Gosodiadau Trydanol: Arolygu, Profi a Chomisiynu 
  • Gosodiadau Trydanol: Diagnosis o Nam a’i Gywiro 
  • Egwyddorion a Gofynion Sylfaenol systemau technoleg amgylcheddol 
  • Dylunio systemau trydanol 
  • Ymwybyddiaeth o yrfaoedd ym maes peirianneg gwasanaethau adeiladu  

Dod yn drydanwr cymwys drwy brentisiaeth 

Dysgu mwy am brentisiaethau, a chwilio am brentisiaeth i drydanwyr ar wefan Talentview.