Gall llythyrau eglurhaol deimlo fel tasg anodd ond maent yr un mor bwysig â'ch CV wrth wneud cais am brentisiaeth. Meddyliwch amdanynt fel stori o’ch CV - byddwch yn ymhelaethu ar y pwyntiau byrrach a’r rhestrau bwled o’ch sgiliau ac yn dangos sut mae eich profiad yn eich gwneud chi’n ffit berffaith ar gyfer y rôl.

Elfennau sylfaenol y llythyr eglurhaol

Ewch i'r afael â'r pethau sylfaenol yn gyntaf ac rydych chi ar eich ffordd i lythyr eglurhaol rhagorol. Peidiwch â chynhyrfu am y dudalen wag, cyn bo hir bydd yn cael ei llenwi â'r holl sgiliau a phrofiad sydd gennych. 

Ysgrifennwch lythyr eglurhaol newydd ar gyfer pob cais 

Gall fod yn demtasiwn i gopïo a gludo eich ffordd trwy nifer o geisiadau, ond dylai pob llythyr fod yn unigryw. Wedi'r cyfan, mae pob rôl yn wahanol, fel y mae pob cwmni rydych chi'n gwneud cais iddo. Mae’n iawn cael pwyntiau ac eglurhad tebyg ar gyfer sgiliau, ond dylai pob llythyr ddechrau fel tudalen wag.  

Peidiwch â bod ofn defnyddio templed 

Gallwch ddod o hyd i nifer o dempledi ar-lein i helpu i’ch arwain a chyn belled nad ydych yn copïo gwaith rhywun arall mae’n iawn defnyddio templed. Mae pethau fel ble i gynnwys y dyddiad, at bwy rydych chi'n anfon y llythyr a'ch manylion cyswllt i gyd yn bwysig, a bydd templed yn dangos hyn i chi. Mae yna lawer o amrywiaeth, felly gwnewch yn siŵr ei fod yn glir ac yn hawdd ei ddarllen - nid un bloc mawr o destun.  

Dylech ei gadw’n fyr ac yn effeithiol 

Hyd delfrydol llythyr eglurhaol yw un ochr i dudalen A4 – tua phum paragraff. Os yw’n hirach, rydych mewn perygl o grwydro ac os dim ond un neu ddau o baragraffau ydyw, ni fyddwch wedi rhoi digon o sylw i’ch sgiliau a’ch profiad nac wedi egluro pam y dylent roi’r swydd i chi.  

Beth ddylech chi ei gynnwys yn eich llythyr eglurhaol

Beth yn union ddylech chi ei gynnwys yn eich llythyr eglurhaol Darllenwch rai enghreifftiau o sgiliau cyflogadwyedd i weld rhai enghreifftiau. 

Ewch du hwnt i’ch CV

Dylai eich llythyr eglurhaol gynnwys y rhannau mwyaf perthnasol o'ch CV i ddangos pam mai chi yw'r gorau ar gyfer y brentisiaeth, ond gallwch hefyd gyfeirio at bethau eraill. Os ydych chi wedi gwirfoddoli, os oes gennych chi hobi neu sgil ddiddorol, neu stori sy'n berthnasol i rôl y swydd, gallwch chi ei chynnwys. Dylai unrhyw hyfforddiant swyddogol, wrth gwrs, fod ar eich CV, ond gallai rhai pethau sydd wedi eich datblygu chi fel unigolyn neu ddangos y gallwch chi fynd i'r afael â rhai sefyllfaoedd wneud ichi sefyll allan.  

Dangoswch beth sydd gennych i'w gynnig i’r cwmni 

Beth sy'n eich gwneud chi'n unigryw i'r cwmni hwn? A ydych yn cefnogi ei ddatganiad o genhadaeth mewn hobi sydd gennych? Allwch chi ddefnyddio eich sgiliau arwain i lywio’r prosiect sydd ganddynt yn ei flaen? A ydych wedi gwneud ymchwil penodol i'r peiriannau y maent yn eu defnyddio? Unrhyw beth y credwch a all eu helpu, cynhwyswch yn eich llythyr.  

Ystyriwch dystebau 

Weithiau gall defnyddio geiriau rhywun arall fod yn fwyaf defnyddiol. Mae tysteb am eich sgiliau neu alluoedd gan athro, hyfforddwr neu weithiwr proffesiynol sy'n eich adnabod yn dda yn ffordd wych o roi clod i'ch doniau. Gallwch gynnwys hwn fel dyfyniad byr yn y llythyr, neu, os yw'n dysteb hirach, fel tudalen ychwanegol i'ch llythyr eglurhaol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn amlygu ei fod wedi'i gynnwys fel nad yw yn cael ei golli.  

Defnyddio gofles cywir 

Pan fyddwn yn darllen, rydym yn defnyddio gofles. Dylai gofles mewn llythyr eglurhaol fod yn argyhoeddiadol, cyfeillgar, hygyrch a hyderus. Dyma sut i gyflawni hyn. 

Ceisiwch beidio â bod yn rhy ffurfiol 

Gall fod yn demtasiwn bod yn hynod ffurfiol mewn llythyr ond ceisiwch gofio mai bod dynol yw’r unigolyn sy’n ei ddarllen! Dylai adrodd stori ddiddorol am eich addysg a'ch hanes a'u darbwyllo i'ch cyflogi, nid eu drysu â geiriad cymhleth neu frawddegau ffurfiol. 

Ysgrifennwch yn ‘oslef’ y cwmni 

Dylai eich llythyr fod yn eich iaith a dylai, yn y pen draw, swnio fel chi. Fodd bynnag, mae gan bob cwmni oslef (TOV) a bydd rhai geiriau neu ymadroddion yn cael eu defnyddio'n rheolaidd i adlewyrchu ei werthoedd brand. Os gallwch chi ffitio'r rhain yn naturiol yn eich llythyr, gwnewch. Dewch o hyd i eirfa neu eiriad cyffredin maent yn ei ddefnyddio ar eu gwefan neu sianeli cymdeithasol a'u defnyddio yn eich llythyr eglurhaol. Darllenwch y llythyr – os yw'n swnio'n orfodol, dylech ei olygu neu ei addasu. 

Ceisiwch ysgrifennu'r llythyr o safbwynt eich ffrind gorau 

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd gwerthu'ch hun neu'ch doniau, dychmygwch fod eich ffrind gorau yn ysgrifennu amdanoch chi. Mae'n debyg y bydden nhw'n dweud wrth y cwmni y dylech chi gael y swydd yn seiliedig ar eich galluoedd ac egluro’r gwaith da wnaethoch mew sefyllfaoedd penodol. Maen nhw'n eich gweld chi mewn golau da, felly bydd yn gwneud eich gofles yn gadarnhaol.  

Eich geiriau olaf. . .cloi eich llythyr 

Dyma’r paragraff olaf a’ch cyfle olaf i wneud argraff, felly mae’n bwysig ei gael yn iawn. 

Dylech gloi eich llythyr yn gryf! 

Peidiwch â mynd oddi ar y pwynt, gorffennwch gyda phwynt olaf am sgil neu pam rydych chi'n gyffrous iawn i gael y brentisiaeth. Beth am y cwmni hwn sy'n eich cyffroi fwyaf? Rhowch wybod iddynt! Gorffennwch drwy ddiolch iddynt am roi o’u hamser i ddarllen eich llythyr a defnyddiwch ‘yn ddiffuant’ neu ‘gofion’ i lofnodi eich llythyr. Darllenwch eich paragraff olaf ychydig o weithiau yn uchel i weld sut mae'n swnio - dylai deimlo fel diwedd naturiol i'ch llythyr. 

Golygwch y llythyr 

Ysgrifennwch ddrafft cyntaf ar un tro os gallwch chi. Yna edrychwch ar y llythyr eto a’i olygu. Gallwch chi wneud hyn gydag amser rhwng  y ddau i roi amser i chi brosesu'r hyn rydych chi am ei newid neu ei ddatblygu. Bydd cymryd seibiant o'r llythyr a dychwelyd ato yn dangos i chi ble mae angen golygu pethau. Dylech hefyd ddefnyddio rhaglenni fel Grammarly (Saesneg yn unig) neu Hemingway Editor (Saesneg yn unig) i wirio am wallau gramadeg a sillafu. Bydd Hemmingway hefyd yn dangos i chi lle gallai eich brawddegau fod yn fyrrach neu'n gliriach. 

Dylech gael rhywun i wirio eich llythyr 

Gofynnwch i fwy nag un unigolyn wirio'ch llythyr eglurhaol os yw’n bosibl. Byddai rhywun sy'n gweithio mewn diwydiant tebyg yn ddelfrydol, ond mae ffrind neu berthynas a fydd yn rhoi adborth gonest i chi hefyd yn ddefnyddiol. Darllenwch ef yn uchel, hefyd, oherwydd bydd hyn yn eich helpu i glywed brawddegau lletchwith neu'n drwsgl neu amlygu geiriau coll a gwallau sillafu.