Facebook Pixel

Gweithgaredd Chwalu Mythau Adeiladu

Enw’r Gweithgaredd:
Gweithgaredd Chwalu Mythau Adeiladu

Disgrifiad o’r Gweithgaredd:

Gweithgaredd gyrfaoedd rhyngweithiol sy’n annog cyfranogwyr i ysgogi trafodaeth er mwyn herio’r stereoteipiau a’r canfyddiadau sy’n gysylltiedig â’r sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.

Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael dwy set o gardiau – un set gyda’r label “myth” a’r llall gyda’r label ‘chwalu’, a’u tasg fydd paru’r cardiau ‘chwalu’ â’r cardiau ‘myth’ i greu atebion sy’n chwalu’r mythau am y diwydiant adeiladu.

 

Nod y Gweithgaredd:
Ysgogi trafodaeth er mwyn herio’r stereoteipiau a’r canfyddiadau sy’n gysylltiedig â’r sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.

 

Cynulleidfa (Oedran a Argymhellir):

  • Pob oedran
  • Yn Cynnwys Dylanwadwyr e.e. athrawon, cynghorwyr gyrfaoedd

 

Chwalu'r Mythau

Maint y Grŵp: Gall cyfranogwyr weithio mewn grwpiau bach/timau o 2 -4 o bobl, ond nid oes cyfyngiad ar faint cyffredinol y grŵp.

Rhagor o wybodaeth: I gael manylion llawn am y gweithgaredd, ewch i’r daflen Crynodeb o’r Gweithgaredd, sy’n rhoi gwybodaeth am y canlynol:

  • Paratoi a’r Adnoddau y byddwch eu hangen
  • Cysylltiadau â’r Cwricwlwm/ Sector/ Sgiliau Cyflogadwyedd
  • Gweithgareddau Ymestyn
  • Amserlen a Awgrymir

Dogfennau i’w Llwytho i lawr

Llwytho Pob Dogfen i Lawr:

Gweithgaredd Chwalu’r Mythau Adeiladu - Pob Dogfen
Maint y ffeil: 64.1MB

Llwytho’r holl ddogfennau i lawr ar gyfer Gweithgaredd Chwalu’r Mythau Adeiladu.

LAWRLWYTHO - Gweithgaredd Chwalu’r Mythau Adeiladu - Pob Dogfen
Dyluniwyd y wefan gan S8080