Facebook Pixel

SkillBuild

SkillBuild, a ddarperir gan CITB, yw'r gystadleuaeth sgiliau aml-grefft fwyaf yn y DU ar gyfer hyfforddeion a phrentisiaid adeiladu.


Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild 2023

Mae enillwyr Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild 2023 wedi’u cyhoeddi, ar ôl i 78 o hyfforddeion adeiladu fynd benben dros dri diwrnod.

Cyflwynir SkillBuild gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) ac mae’n arddangos rhai o’r talentau mwyaf disglair ym maes adeiladu. Mae’r gystadleuaeth fawreddog yn dod â dysgwyr a phrentisiaid hynod fedrus at ei gilydd i frwydro i gael eu coroni’n enillydd y grefft o’u dewis.

Yn dilyn y gemau rhagbrofol rhanbarthol, a gynhaliwyd mewn gwahanol golegau ar draws y DU yn gynharach eleni, cynhaliwyd y Rownd Derfynol Genedlaethol yn Arena Marshall yn Milton Keynes ar 21-23 Tachwedd. Denodd y digwyddiad tua 1,000 o ymwelwyr, gan arddangos yr amrywiaeth o sgiliau a chyfleoedd gyrfa sydd ar gael o fewn y diwydiant.

Dros y tridiau cafodd y cystadleuwyr y dasg o adeiladu prosiect a ddyluniwyd gan banel o feirniaid arbenigol, o fewn amserlen o 18 awr. Mae’r prosiect yn profi gwybodaeth a sgiliau’r unigolyn, yn ogystal â’u gallu i weithio dan bwysau, gan sicrhau eu bod yn cadw at brotocolau iechyd a diogelwch.

""

Yr enillwyr o SkillBuild yw






Cymerwch ran

Rhyngweithiwch â’r gystadleuaeth ar draws y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio’r hashnod #SkillBuild2023.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar Am Adeiladu ar Twitter, FacebookInstagramYouTube  Facebook, Instagram a YouTube i gael y newyddion diweddaraf ac uchafbwyntiau'r gystadleuaeth.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am SkillBuild 2023, cysylltwch â ni ar skillbuild@citb.co.uk.


Dyluniwyd y wefan gan S8080