Facebook Pixel

Sut mae gwneud cais am brentisiaeth?

Dod o hyd i'ch ffordd i fyd adeiladu

Ar ôl i chi benderfynu ar y rôl i chi, mae’n bryd chwilio am brentisiaeth i’ch helpu i wireddu eich syniad.

Mae mwy nag un ffordd o ddod o hyd i brentisiaeth. Mae llawer o gyfleoedd yn cael eu hysbysebu ar-lein, ond efallai y bydd yn bosibl dod o hyd i swydd drwy lwybr arall. Cymerwch olwg ar ein hawgrymiadau isod i ddod o hyd i le a fydd yn addas i chi.


Sut mae dod o hyd i gyflogwr?

Sut mae dod o hyd i gyflogwr?

Er mwyn dod yn brentis adeiladu, bydd angen i chi ddod o hyd i gyflogwr i’ch cyflogi a rhoi hyfforddiant i chi yn y gwaith. Mae sawl ffordd o ddod o hyd i gyflogwr:

  • Ewch at fusnesau bach neu fawr neu gwmnïau lleol i weld a ydynt yn fodlon eich cyflogi.
  • Sgroliwch i lawr i weld y swyddi gwag sydd wedi’u rhestru ar fap rhyngweithiol ar hyn o bryd, neu edrychwch ar gyfleoedd am brentisiaethau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban drwy ddilyn y dolenni isod.
  • Cofrestrwch gyda safleoedd swyddi fel Indeed neu TotalJobs. Byddwch yn gallu llwytho eich CV i fyny a chael rhybuddion am swyddi i’ch helpu i ddod o hyd i gyfleoedd addas. Bydd cyflogwyr hefyd yn gallu cysylltu â chi’n uniongyrchol.
  • Edrychwch ar yr adrannau prentisiaethau neu swyddi gwag ar wefannau cwmnïau adeiladu, neu dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.
  • Cysylltwch â cholegau lleol, darparwyr hyfforddiant arbenigol neu asiantaethau rheoli prentisiaethau i gofrestru eich diddordeb. Efallai y byddan nhw’n gallu eich helpu i ddod o hyd i gyflogwr.
  • Gofynnwch i'ch ffrindiau, teulu a chymdogion a oes ganddynt unrhyw gysylltiadau yn y diwydiant adeiladu neu a oes cyfleoedd am brentisiaethau lle maent yn gweithio.

Wrth siarad â chyflogwyr, gadewch iddynt wybod, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau, y gallent dderbyn hyd at £12,000 mewn grantiau gan y llywodraeth neu Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) am eich cyflogi. Bydd hyn yn eu helpu i dalu'r costau am eich cyflogi.

Dod o hyd i brentisiaeth



Heb benderfynu? Dod o hyd i'ch rôl berffaith

Dyluniwyd y wefan gan S8080